Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Mehefin 2022
Amser:
09.15 -
12.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12852
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Heledd Fychan AS |
Tystion: |
Laura Doel, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru Eithne Hughes, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Rocio Cifuentes, Childrens' Commissioner for Wales Jane Houston, Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Jennifer Cottle Rosemary Hill (Ymchwilydd) |
1 Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 1
1.1 Bu'r aelodau'n trafod yr ymchwiliad gyda swyddogion lles addysg, cynrychiolydd o'r grŵp prif swyddogion ieuenctid a chynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
1.2 Cytunodd rheolwr gwasanaeth swyddog lles addysg i ddarparu data yn ymwneud â Hysbysiadau Cosb Benodedig a gwybodaeth am 'Brosiect y Bont'.
1.3 Cytunodd y
Clercod i ddarparu cyfeiriad e-bost i bob panelydd rhag ofn bod gan
unrhyw un unrhyw beth i'w ychwanegu, neu unrhyw dystiolaeth
ychwanegol. Bydd nodyn o'r sesiwn i'w wirio.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sioned Williams AS a James Evans AS, a byddai
Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran Sioned Williams.
3 Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan yr undebau arweinwyr mewn ysgolion.
4 Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.
4.2 Oherwydd
cyfyngiadau amser, cytunodd y Cadeirydd y byddai'r cwestiynau nas
gofynnwyd yn cael eu hanfon at y Comisiynydd i gael ymateb
ysgrifenedig.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 Absenoldeb disgyblion - trafod y dystiolaeth
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiynau blaenorol.